Cyfarwyddwr Cerdd

Gwasanaeth Cyfarwyddo Cerdd yn cynnwys:

  • Dewis a golygu cerddoriaeth addas.
  • Paratoi cerddoriaeth, naill ai fel copïau ysgrifenedig ar gyfer cerddorion yn byw, neu fel traciau sain wedi recordio ymlaen llaw neu gyfuniad o’r ddau lle ychwanegir at  sain band byw fach efo offeryniaeth a recordiwyd ymlaen llaw ychwanegol.
  • Cynnal ymarferion efo’r cantorion a’r band / cerddorfa
  • Cyfarwyddo perfformiadau o’r ‘pit’ naill ai fel aelod o’r band neu fel arweinydd

Rydym hefyd yn cynnig pecyn sy’n cynnwys y cyfleusterau i recordio’r perfformiad i recordydd aml-drac digidol, wedi’i syncroneiddio i timecode – sy’n defnyddiol wrth paratoi recordiad i gyd-fynd a fideo. Gall y deunydd yma cael ei olygu, a’i ychwanegu ato cyn cael ei cymysgu yn Stiwdio Aran ar gyfer CD / DVD neu ddefnydd darlledu.

Gwaith teledu yn cynnwys:

  • Noson Lawen (TONFEDD)
  • Yma mae Nghan (TONFEDD)
  • Can i Gymru 97 (APOLLO)
  • Cyngerdd Dathlu’r Urdd 97 (AVANTI)
  • Gwahoddiad (AVANTI)
  • Carnifal y Cofi (AVANTI)
  • Y Sioe Gelf – Siarad Cyfrolau (CWMNI DA)

Sioe gerdd yn seiliedig ar ‘Llyfr Mawr y Plant’ a dderbyniodd croeso cynnes yn ystod ei daith o amgylch Cymru yn ystod yr Hydref 2008. Cerddoriaeth gan Catrin Edwards, Cyfarwyddwr Cerdd – Emyr Rhys
“…. Yn wledd i’r llygaid ac i’r clustiau.” Alwyn Gruffydd – bbc.co.uk

Gwaith theatr yn cynnwys:

  • O’r tu ol
  • Dal i Bwmpio
  • Caffi Basra
  • Y Bonc Fawr
  • Jac yn y Bocs
  • Llyfr Mawr y Plant
    all for Bara Caws Theatre Company
  • Ti a fi (Franwen Theatre Company)

hefyd wedi chwarae’r allweddellau ar gyfer tri tymor o pantomeim yn Theatr y Pafiliwn yn Rhyl i UK Productions

I LAWR YN Y ‘PIT’

yn paratoi ar gyfer perfformiad yn Nghanolfan y Mileniwm yn Nghaerdydd 2008

Mae Emyr Rhys hefyd yn Cyfarwyddwr Cerdd i’r band priodas sy’n arbennigo mewn ffync a ‘soul’ – ubergroove.co.uk ubergroove

FaLang translation system by Faboba