Trwyddedi a Chlirio

Trwyddedu Cerddoriaeth

Rhan gynyddol bwysig o’n waith ‘corfforaethol’, mae’r gwaith yma’n defnyddio ein gwybodaeth o’r repertoire a’r gysylltiadau healaeth rydym wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd tu fewn i’r Diwydiant Cerddoriaeth. Mae ein Cwmni Cyhoeddi – “Aran” yn aelod gyhoeddwr o’r MCPS, gan roi mynediad i ni i gronfa ddata ar-lein ‘PRS’ (Cymdeithas Casglu Hawliau) .

Os ydych angen defnyddio cerddoriaeth fasnachol fel rhan o’ch prosiect rydym yn gallu:

Adnabod holl ddeiliaid yr hawliau ar gyfer y gwaith deallusol a deiliaid hawliau y cyfrwng lle y mae’n cael ei atgynhyrchu
Ceisio caniatâd ar gyfer recordiadau cerddorol, cyfansoddiadau cerddorol, cerddoriaeth printiedig a geiriau
Trefnu trwyddedau sy’n caniatadau cynnwys cerddoraeth yn eich cynnyrch
Paratoi contractau uniongyrchol rhyngoch chi a’r deiliad hawlfraint
Ein pwynt gwerthu unigryw yw hyd yn oed os ydy’r caniatâd i ddefnyddio’r deunydd penodol yn cael ei wrthod, rydym bron bob amser yn gallu cynnig ateb. Efallai y byddwn yn awgrymu cerddoriaeth arall tebyg, recordio fersiwn newydd lle mae’r hawliau yn y recordiad yn eiddo i chi, neu gyfansoddi a chynhyrchu darn o gerddoriaeth yn pwrpasol, gan ddefnyddio cyfleusterau ehangach y cwmni.

Gwaith ‘clirio’ arall

Er mae cerddoriaeth yw ein harbenigedd, mae gennym profiad o glirio mathau eraill o ddeunydd hefyd, megis: 

  • Clipiau teledu o lawer o wahanol ffynonellau
  • Treils gan Cwmnïau mawr Ffilm
  • Fideos Cerddorol trwy llawr llwytho’n digidol 
  • Lluniau a gwaith celf

Cleientiaid wedi cynnwys:

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Teledu Antena
  • Teledu Cwmni Da
  • Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • Cynnal
  • Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu

Cyhoeddiadau Aran

Mae gennym gatalog cynyddol o gerddoriaeth, drwy ein gwaith i’r cyfryngau a cherddoriaeth a gynhyrchir ar gyfer ein label recordio. Mae gennym hefyd gytundebau gweinyddu gyda rhai o’r Cwmnïau teledu mwyaf yn y rhanbarth ac yn gweinyddu eu hawliau cyhoeddi cerddoriaeth. Os hoffech chi i ni gyhoeddi eich cerddoriaeth, a sicrhau yr incwm y gellir ei gynhyrchu trwy ei ddefnydd, yna cysylltwch â ni.